Mae timau achub yn Iran wedi dod o hyd i weddillion awyren a darodd y ddaear gan ladd y 65 o deithwyr oedd arni.

Roedd yr awyren Aseman Airlines ar ei ffordd o Tehran i Yasuj, pan darodd mynydd yn ne’r wlad, ddydd Sul (Chwefror 18).

Nid yw achos y gwrthdrawiad yn glir, ond mae’n ddigon posib mai tywydd garw gan gynnwys gwyntoedd cryfion, oedd ar fai.

Roedd chwech o’r rhai fu farw yn aelodau o’r criw, a 59 yn deithwyr. Yn wreiddiol roedd asiantaeth newyddion y wlad yn honni mai 66 fu farw.

Cafodd Iran ei rhwystro am flynyddoedd rhag prynu offer awyrennau, oherwydd sancsiynau’r Gorllewin.