Mae dyn wedi saethu pedwar o bobol yn farw wrth iddyn nhw adael eglwys yn Rwsia.
Cafodd pedwar o bobol eraill eu hanafu yn y digwyddiad yn nhref Kizlyar yn rhanbarth Dagestan, yn ôl asiantaeth newyddion yn y wlad.
Roedden nhw newydd fod mewn gwasanaeth pan gawson nhw eu lladd.