Mae llywodraeth ffederal Brasil wedi cyflwyno gorchymyn sy’n golygu bod heddlu lleol Rio de Janeiro yn cael ei roi yng ngofal y fyddin.

Daw’r newyddion wrth i’r fasnach gyffuriau yn y ddinas droi’n fwyfwy treisgar.

Mae’r cam hwn yn un allweddol i’r wlad yn Ne America, wrth i nifer gael eu hatgoffa am yr unbennaeth filwrol a oedd yn rheoli Brasil rhwng 1964-1985.

Er y byddai hyn yn galluogi’r awdurdodau yn y ddinas i ddod â’r fasnach gyffuriau o dan reolaeth, mae nifer o drigolion Rio de Janeiro yn poeni bod y weithred hon yn un rhy lawdrwm gan y llywodraeth.

Problemau’r Arlywydd

Mae nifer hefyd yn credu ei bod yn ymgais gan Arlywydd y wlad, Michel Temer, i dynnu sylw oddi ar ei broblemau gwleidyddol, wrth i’w boblogrwydd edwino a’i ymdrechion i gyflwyno diwygiadau i bensiynau fethu.

Er hyn, does dim amheuaeth bod trais ar gynnydd yn Rio de Janeiro, lle methodd awdurdodau’r ddinas â diogelu trigolion ac ymwelwyr rhag nifer o ddigwyddiadau treisgar yn ystod dathliadau’r carnifal – a ddaeth i ben ddydd Mawrth diwethaf (Ionawr 13).

Mi fydd rhaid i senedd y wlad gadarnhau’r gorchymyn cyn y bydd yn cael ei weithredu, ac fe fydd pleidlais ar y mater yr wythnos nesaf, ac mae disgwyl i’r mesur gael ei basio.