Mae gwylnos wedi cael ei chynnal yn nhalaith Fflorida i gofio am yr 17 a gafodd eu saethu’n farw yn yr ymosodiad ysgol yno.

Roedd o leia’ 1,000 o bobol yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn Parkland neithiwr, gyda llawer yn dadlau’n gry’ tros dynhau’r deddfau gynnau yn yr Unol Daleithiau.

Mae cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Marjory Stoneman Douglas – safle’r ymosodiad – bellach wedi cael ei gyhuddo o lofruddio’r 17.

Mae’n debyg fod Nikolas Cruz, 19, wedi prynu’r arf a gafodd ei ddefnyddio yn yr ymosodiad yn gyfreithlon, ac wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau gyda grŵp hiliol gwyn yn y gorffennol.