Mae 17 o blant a phobol wedi cael eu saethu’n farw mewn ysgol uwchradd yn nhalaith Fflorida, yr Unol Daleithiau.

Yn ôl awdurdodau, mae cyn-ddisgybl o’r enw Nikolaz Cruz, 19, bellach yn y ddalfa dan amheuaeth o gyflawni’r ymosodiad.

Mae’n debyg od y llanc wedi ei wahardd o Ysgol Uwchradd Marjory Stoneman Douglas, Parkland, oherwydd problemau â’i ymddygiad.

Llwyddodd awdurdodau i’w ddal heb ffwdan, ac mae’n debyg fod ganddo o leiaf un reiffl a llawer o fwledi.

Larwm tân

Yn ôl adroddiadau lleol, roedd wedi tanio larwm tân yr ysgol er mwyn i’r plant ruthro allan i’r coridorau a’i gwneud hi’n haws eu saethu nhw.

Cafodd y mwyafrif o’r rhai fu farw eu lladd yn adeiladau’r ysgol, a rhywfaint y tu allan.

Gyda nifer o achosion o saethu mewn ysgolion eisoes wedi bod yn yr Unol Daleithiau eleni, fe fydd y digwyddiad yn agor y dadleuon eto am yr holl ynnau sydd ar gael mor hawdd.