Mae’n ymddangos mai methiannau ar ran y peilot wnaeth achosi i awyren blymio o’r awyr ym Mosgow gan ladd pob un oedd yn teithio arni.
Bu farw 71 o bobol – 65 o deithwyr a chwe aelod o’r criw – pan blymiodd yr awyren i gae wrth adael maes awyr Domodedovo ar Chwefror 11.
Bellach mae ymchwilwyr wedi dod i’r casgliad bod y peilot wedi esgeuluso ei offer mesur, gan olygu nad oedd yn medru mesur cyflymder yr awyren.
Bydd cwmni awyrennau Saratov Airlines – cyflogwr y peilot – yn atal awyrennau penodol rhag hedfan tan fod ymchwiliadau swyddogol yn dod i ben.