Â’r argyfwng yn parhau tros arweinyddiaeth Llywodraeth De Affrica, mae’r Arlywydd, Jacob Zuma, bellach yn wynebu galwadau gan ei blaid i ymddiswyddo.

Daeth arweinyddion y Gyngres Affricanaidd Cenedlaethol (ANC) i’r casgliad nos Lun (Chwefror 12), eu bod am weld y gwleidydd yn camu o’r neilltu.

Ond, er gwaetha’ casgliad yr ANC, mae’n ymddangos bod Jacob Zuma yn bwriadu aros yn ei rôl tan fod ei blaid yn gwireddu casgliad o ddymuniadau.

Os fydd yr Arlywydd yn penderfynu anwybyddu ei blaid, mae’n bosib y gallai pleidlais o ddiffyg hyder gael ei chynnal yn Senedd De Affrica.

Mae pleidlais o ddiffyg hyder eisoes wedi cael ei threfnu, i’w chynnal ar Chwefror 22. Ond, mae rhai yn Ne Affrica am weld y bleidlais yn cael ei chynnal wythnos yn gynt.