Mae Twrne Cyffredinol Efrog Newydd wedi penderfynu dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y cynhyrchydd ffilm Harvey Weinstein a’i gwmni, yn gysylltiedig ag achosion o aflonyddu rhywiol.

Mewn dogfennau cyfreithiol gafodd eu cyflwyno ddydd Sul (Chwefror 11) mae’r Twrne Cyffredinol, Eric Schneiderman, yn cyhuddo cwmni Weinstein Co o fod wedi torri’r gyfraith “drosodd a throsodd”.

Mae’r dogfennau yn benodol yn cyhuddo’r cwmni o “fethu ag amddiffyn ei gweithwyr rhag aflonyddu rhywiol, codi braw a gwahaniaethu helaeth”.

Mae cyfreithiwr Harvey Weinstein, Ben Brafman, wedi ymateb mewn datganiad trwy ddweud “nad oes sail” i lawer o’r honiadau.

Bellach, mae Harvey Weinstein wedi ei ddiswyddo o gwmni Weinstein Co – cwmni y sefydlodd â’i frawd Robert Weinstein. Mae Harvey Weinstein yn gwadu pob cyhuddiad o ryw heb gydsyniad.