Yn Rwsia, mae timau brys yn parhau i chwilio caeau ar ôl i awyren blymio i’r ddaear ger Moscow, gan ladd pob un o’r 71 o deithwyr ar ei bwrdd.

Roedd yr awyren Saratov Airlines yn teithio i Orsk yn ne’r Wralau pan darodd y ddaear funudau’n unig ar ôl gadael maes awyr Domodedovo ym Moscow ddydd Sul.

Cafodd y 65 o deithwyr a chwe aelod o’r criw eu lladd.

Yn ôl gweinidog trafnidiaeth Rwsia Maxim Sokolov fe fydd y gwaith o chwilio am weddillion y teithwyr yn cymryd hyd at wythnos. Dywedodd bod timau brys wedi dod o hyd i focs du’r awyren a fydd yn hanfodol i geisio darganfod beth achosodd y ddamwain.

Mae ymchwilwyr wedi diystyru’r posibilrwydd mai ymosodiad braywchol oedd ar fai.