Mae’r heddlu yn yr Unol Daleithiau wedi cyhoeddi enwau tri o bobl o Brydain a gafodd eu lladd mewn damwain hofrennydd yn y Grand Canyon.

Bu farw Becky Dobson, 27, Jason Hill, 32, a Stuart Hill, 30, yn y digwyddiad ddydd Sadwrn ac mae tro o bobl eraill o Brydain yn yr ysbyty.

Cafodd Ellie Milward, 29, Jonathan Udall, 32, a Jennifer Barham, 39, eu cludo i’r ysbyty yn Las Vegas, Nevada, ynghyd a’r peilot Scott Booth, 42.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth achosodd y ddamwain.

Yn ôl adroddiadau bu’n rhaid i’r rhai oroesodd y ddamwain aros am wyth awr cyn cael eu hachub oherwydd y tywydd gwael.

Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd chwech o bobl o Brydain oedd yn gysylltiedig â’r ddamwain yn y Grand Canyon ar 10 Chwefror.