Mae Gweinidog Trafnidiaeth Rwsia wedi dweud nad oedd unrhyw un wedi goroesi’r gwrthdrawiad awyren yn gynharach heddiw.

Mae lle i gredu bod 71 o bobol ar awyren Saratov – chwech aelod o staff a 65 o deithwyr.

Roedd yn teithio o faes awyr Domodedovo pan ddaeth yr awyren i lawr a tharo’r ddaear ym Mosgo.

Mae Arlywydd y wlad, Vladimir Putin wedi gohirio ymweliad â Sochi yn dilyn y digwyddiad, ac fe fydd yn cyfarfod â Mahmoud Abbas, arweinydd Palesteina ym Mosgo ddydd Llun.