Mae o leiaf 18 o bobl wedi cael eu lladd wrth i fws deulawr droi drosodd yn Hong Kong.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu’r dalaith fod 15 o ddynion a thair o ferched wedi marw yn y ddamwain neithiwr. Mae lluniau i’w weld ar gyfryngau cymdeithasol o’r bws aur ei liw ar ei ochr a gweithwyr gwasanaethau brys yn trin teithwyr a gafodd eu hanafu.

Yn ôl papur newydd y South China Morning Post, hon yw’r ddamwain ffordd waethaf yn Hong Kong ers i 21 gael eu lladd mewn damwain bws yn 2003.