Mae arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, wedi gwahodd arlywydd De Corea, Moon Jae-in i uwch-gynhadledd yn y Gogledd.
Cafodd y gwahoddiad ei gyflwyno gan Kim Yo Jong, chwaer Kim Jong Un, ar ei hymweliad â De Corea.
Er bod drwgdybiaeth fawr rhwng llywodraethau’r ddwy wlad, mae’r cynnig yn cael ei weld fel datblygiad addawol yn y berthynas rhyngddynt.
Mae Moon Jae-in yn awyddus i ddefnyddio presenoldeb Kim Yo Jong yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf i adfer cysylltiadau rheolaidd â Gogledd Corea, a thrafodaethau niwclear yn y pen draw.