Mae cyn-brif weinidog Bangladesh, Khaleda Zia, wedi’i ddedfrydu i bum mlynedd o garchar, wedi i lys ei gael yn euog o lygredd.
Mae’n golygu y bydd y gwleidydd sy’n un o wrthwynebwyr mwyaf y Prif Weinidog presennol, Sheikh Hasina, wedi’i gwahardd rhag sefyll yn yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr eleni.
Fe ddaeth y dyfarniad yn Dhaka heddiw.
Mae hi wedi’i chael yn euog o gamddefnyddio gwerth $248,154 (£178,000) o roddion a oedd wedi’u bwriadu i gartref plant amddifad, pan oedd hi’n brif weinidog rhwng 2001 a 2006.
Mae’r barnwr hefyd wedi anfon mab Khaleda Zia, Tarique Rahman, ynghyd â phedwar arall i garchar am ddeng mlynedd yr un am eu rhan nhw yn y drosedd.