Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau yn dweud bod yna “dystiolaeth eitha’ clir” bod Rwsia wedi ymyrryd yn yr etholiad Arlywyddol yn 2016.

Fe wnaeth George W Bush y sylwadau hyn wrth siarad mewn uwchgynhadledd yn Abu Dhabi, ac er na chyfeiriodd at yr Arlywydd, Donald Trump, yn uniongyrchol, roedd hefyd yn feirniadol o bolisi tramor presennol yr Unol Daleithiau o geisio twymo at Rwsia.

“Mae yna dystiolaeth eitha’ clir bod Rwsia wedi ymyrryd,” meddai. “P’un ai wnaeth hynny effeithio ar y canlyniad, mae hynny’n fater arall… Mae’n creu problemau pan mae gwlad tramor yn rhan o’n system etholiadol.”

Fe wnaeth y cyn-Arlywydd Gweriniaethol hefyd ddisgrifio Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, fel person sydd ag “asgwrn i’w grafu” â’r Unol Daleithiau.

“Y rheswm am hyn yw oherwydd bod cwymp yr Undeb Sofietaidd yn ei boeni,” meddai eto. “Felly mae llawer iawn o’i symudiadau’n ymwneud ag adfer awdurdod y Sofietiaid.”

Ymchwiliadau’n parhau

Mae’r asiantaethau gwybodaeth yn yr Unol Daleithiau eisoes wedi dod i’r casgliad bod Rwsia wedi ymyrryd yn yr etholiad yn 2016 er mwyn sicrhau bod Donald Trump yn ennill.

Mae ymchwiliadau yn dal i gael eu cynnal ar hyn o bryd er mwyn canfod os gwnaeth ymgyrch etholiadol Donald Trump gynorthwyo’r Kremlin yn hyn o beth.