Mae goruchaf lys Tecsas wedi gwrthod apêl gan Brydeinwraig a gafodd ei dyfarnu’n euog o gynllwynio i ladd ei chymydog er mwyn gallu cymryd ei babi.

Roedd Linda Carty wedi ceisio dadlau fod yr erlyniad yn yr achos wedi cuddio gwybodaeth a allai fod wedi cael dylanwad ar ganlyniad ei hachos, a’u bod wedi dylanwadu hefyd ar dystion.

Mae Linda Carty yn hanu o St Kitts a Nevis, a hi yw’r unig wraig o wledydd Prydain sydd ar Death Row yn America.

Fe gafodd ei dyfarnu’n euog o fygu Joana Rodriguez, 20, yn y flwyddyn 2001.