Gydag ymgyrch filwrol Twrci yn dwysau yn Syria, mae’r arlywydd Recep Tayyip Erdogan wedi galw ar yr Unol Daleithiau i dynnu eu milwyr o dref yng ngogledd Syria.

“Pam ydych chi [yn nhref Manbij] o hyd? Ewch,” meddai. “Yna, fe ddown ni yno a dychwelyd y tiroedd i’w perchnogion go iawn.”

Tref Arabaidd yw Manbij yn bennaf, a nod Twrci yw gwaredu’r milwyr Cwrdaidd sydd yno – milwyr bu’n ymladd yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae’r sefyllfa yn un gymhleth i Dwrci a’r Unol Daleithiau – sydd yn gynghreiriaid NATO – gan fod y ddwy ochr â pherthnas wahanol iawn â’r milwyr Cwrdaidd.

Mae disgwyl y bydd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Rex Tillerson, yn ymweld â Thwrci yr wythnos nesaf.