Mae ymosodwyr wedi tanio at blismyn yn India, ac wedi helpu carcharor i ddianc, wrth iddo gael ei gludo i’r ysbyty yn Kashmir.

Fe gafodd dau heddwas eu hanafu yn y digwyddiad, ac mae un ohonyn nhw wedi marw ers y digwyddiad yn Srinagar, prif ddinas y dalaith.

Fe ddihangodd y carcharor, sy’n hanu o Bacistan, ynghyd â’r ymosodwyr.

Mae’r carcharor, sy’n aelod o’r grwp milwriaethus Lashkar-e-Taiba, dan glo ers 2015. Mae nifer o grwpiau wedi bod yn ymladd dros annibyniaeth Kashmir oddi wrth India, ac yn erbyn uno’r rhanbarth â Phacistan, ers 1989.