Mae dyn o Israel wedi’i drywanu i farwolaeth gan Balesteiniaid mewn safle bws ar y Lan Orllewinol.

Yn ol llefarydd ar ran y fyddin, fe aeth milwr ar ol yr ymosodwr mewn cerbyd, ond fe fethodd â’i ddal.

Mae’r dyn a gafodd ei ladd wedi’i adnabod yn ffurfiol fel Itamar Ben Gal, 29, a oedd yn dad i bedwar o blant.

Mae teledu lleol wedi bod yn darlledu lluniau teledu cylch cyfyng o’r safle bws, yn dangos yr ymosodwr yn croesi ffordd brysur ac yna’n mynd am yr Israeliad yn gwbwl ddirybudd.

Mae prif weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi anfon ei gofion at deulu’r gwr a gafodd ei ladd, ac mae’n dweud fod lluoedd diogelwch ei wlad “wrthi ar hyn o  bryd yn cwrsio’r llofruddwyr”.