Mae dyn sy’n cael ei amau o fod yn rhan o’r ymosodiad ym Mharis yn 2015, yn ymddangos o flaen y llys ym Mrwsel heddiw.

Dyma’r tro cyntaf i Salah Abdeslam, sy’n enedigol o Frwsel, ymddangos yn gyhoeddus ers iddo gael ei arestio bron i ddwy flynedd yn ôl. Mae’n wynebu cyhuddiadau o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad rhyngddo â’r heddlu yn y ddinas ym mis Mawrth 2016, lle llwyddodd i ddianc.

Bu farw’r dyn a’i helpodd i ddianc drwy danio gwn at yr heddlu, a chafodd tri o blismyn eu hanafu.

Dim ond am gyfnod byr y bu Salah Abdeslam ar ffo, ac fe lwyddodd yr heddlu i’w ddal ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach ar 18 Mawrth, 2016, mewn fflat yn ardal Molenbeek ym Mrwsel. Dyma’r ardal lle’r oedd ef a nifer o’i gyd-aelodau o’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi cael eu magu.

Fe gyrhaeddodd Salah Abdeslam yng Ngwlad Belg ddydd Llun ar ôl cael ei drosglwyddo o garchar yn Ffrainc lle mae wedi treulio’r  ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae’n ymddangos yn y llys heddiw oherwydd ei gysylltiad â’r digwyddiad ym Mrwsel.

Mae’r awdurdodau yn Ffrainc yn credu ei fod wedi chwarae rhan allweddol yn yr ymosodiad brawychol ym Mharis yn 2015, lle cafodd 130 o bobol eu lladd ond mae Salah Abdeslam wedi gwrthod trafod â’r heddlu ynglŷn â’r ymosodiadiau.

Ychydig ddiwrnodau ar ôl iddo gael ei arestio yn 2016, bu ymosodiad arall ym Mrwsel, lle cafodd 35 o bobol eu lladd.