Fe fydd y trafodaethau rhwng Ceidwadwyr Angela Merkel a’r Democratiaid Sosialaidd i ffurfio llywodraeth glymblaid yn yr Almaen yn parhau heddiw.
Dydy’r ddwy blaid ddim wedi llwyddo i ddod i gytundeb hyd yn hyn, ond mae disgwyl y cytundeb hwnnw cyn diwedd y dydd.
Dyma’r ail gyfnod hiraf o drafodaethau cyn ffurfio clymblaid ers yr Ail Ryfel Byd, ac fe fydd y cytundeb terfynol yn destun pleidlais ymhlith y Democratiaid Sosialaidd cyn bod modd ffurfio’r llywodraeth yn swyddogol.
Ond mae amheuon a ddylid parhau â’r glymblaid sydd wedi bod mewn grym ers 2013, ac sy’n gostwng mewn poblogrwydd ers etholiadau mis Medi’r llynedd.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Sosialaidd, Martin Schulz fod “materion i’w trafod eto, yn enwedig cwestiynau ynghylch polisi cymdeithasol”, a’i fod e am sicrhau “llywodraeth sefydlog” i’r wlad.
Ychwanegodd y Canghellor Angela Merkel fod “pwyntiau pwysig” i’w trafod o hyd.
Daeth y trafodaethau blaenorol i ben heb gytundeb ym mis Tachwedd. Byddai methiant y tro hwn yn arwain at lywodraeth leiafrifol o dan Angela Merkel neu etholiad o’r newydd.