Mae peilot o Rwsia wedi cael ei saethu’n farw gan al-Qaida ar ôl i’w awyren gael ei saethu i lawr tros Syria.

Llwyddodd i ddianc o’r awyren cyn cael ei saethu’n farw ar lawr yn nhalaith Idlib yng ngogledd-orllewin y wlad.

Mae awdurdodau Rwsia wedi cadarnhau’r digwyddiad, gan ychwanegu bod y peilot wedi’i ladd wrth ymladd â “brawychwyr”.

Mae lle i gredu mai taflegryn oedd wedi taro’r awyren.

Mae mwy na 35 o gyrchoedd awyr wedi’u cynnal tros Syria ers dydd Gwener ac mae mwy na 270,000 o bobol wedi ffoi o’u cartrefi ers mis Rhagfyr, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.