Mae chwech o bobol wedi cael eu hanafu yn yr Eidal ar ôl i ddyn eu saethu o’i gar wrth yrru yn ninas Macerata ar ochr ddwyreiniol canol y wlad.
Cafodd dyn 28 oed ei arestio yn fuan wedyn ar amheuaeth o gyflawni’r ymosodiadau.
Er nad oes cadarnhad o’r cymhelliad eto, mae amheuon ei fod yn gysylltiedig â digwyddiad arall.
Yn gynharach yr wythnos yma, cafwyd hyd i gorff Eidales ifanc yn y dref, a mewnfudwr o Nigeria sy’n cael ei amau o fod yn gyfrifol.
Dywed Maer y ddinas, Romano Carancini, fod pawb a gafodd eu saethu heddiw yn bobol groenddu.
“Mae’r ddau ddigwyddiad yma mor agos at ei gilydd yn gwneud ichi ddychmygu bod cysylltiad,” meddai.