Mae arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi bod yn cymryd rhan mewn dathliadau 75 mlynedd ers buddugoliaeth y Fyddin Goch yn erbyn y Natsïaid yn Stalingrad yn yr Ail Ryfel Byd.

Fe fu’n ymweld â Volgograd, enw presennol y ddinas yn ne Rwsia ar lan orllewinol afon Volga.

Er i’r ddinas ei hail-enwi yn 1961 wrth i’r Undeb Sofietaidd gefnu ar gwlt personoliaeth y cyn-unben Joseph Stalin, mae’r enw’n parhau yng nghyd-destun y frwydr hanesyddol.

Caiff y pum mis o ymladd yn Stalingrad rhwng mis Awst 1942 a Chwefror 1943 ei ystyried fel y frwydr fwyaf gwaedlyd mewn hanes. Amcangyfrifir bod dwy filiwn o bobl, yn filwr a phobl gyffredin, wedi cael eu lladd.

Eto i gyd, caiff ei hystyried hefyd fel buddugoliaeth allweddol a gyfrannodd at drechu’r Natsïaid yn y rhyfel.

“Roedd buddugoliaeth Stalingrad yn adlewyrchiad o ddewrder in milwyr ac o ddawn eu harweinwyr,” meddai Vladimir Putin.

“Mae amddiffynwyr Stalingrad wedi gadael etifeddiaeth gyfoethog inni: cariad at y famwlad, parodrwydd i amddiffyn ei buddiannau a’i hannibyniaeth a gwrthsefyll unrhyw rwystrau.”