A hithau ar daith yn Tsieina, bydd Theresa May yn cyfarfod ag Arlywydd y wlad, Xi Jinping, ddydd Iau (Chwefror 1) i drafod materion gan gynnwys yr amgylchedd a Gogledd Corea.

Ond mae’r sylw mwya’ yn parhau ar fasnach wrth i Lywodraeth  y Deyrnas Unedig chwilio am gytundebau wedi Brexit.

Y disgwyl yw y bydd gwerth £9 biliwn o gytundebau masnach yn cael eu harwyddo yn ystod yr ymweliad ond mae’r Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol, Liam Fox, wedi cydnabod efallai na fydd y Deyrnas Unedig yn cael cytundeb masnach rydd llawn gyda Tsieina wedi Brexit.

Agor marchnadoedd

Daw’r cyfarfod heddiw yn dilyn trafodaethau rhyngddi hi a Phrif Weinidog Tsieina, Li Keqiang, ddydd Mercher pan gytunodd y ddau ar adolygiad masnach.

Mae Li Keqiang wedi addo bydd Beijing yn agor rhagor o’u marchnadoedd i’r Deyrnas Unedig ac fe allai hynny gael effaith ar nwyddau amaethyddol a gwasanaethau ariannol.

Mae disgwyl i’r cam hwn arwain yn y pen draw at gytundeb masnach rydd ôl-Brexit.

Fox yn cefnogi May

Mae Liam Fox wedi dweud yn Beijing y bydd yn cefnogi Theresa May i aros yn Brif Weinidog tra bydd hi eisiau hynny.

A hithau dan bwysau cynyddol gan aelodau o’i phlaid ei hun tros Brexit, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol ei bod yn cael derbyniad ardderchog yn Tsieina ac y byddai’n beth da i’w beirniaid weld hynny.