Mae bachgen Palesteinaidd 16 oed wedi’i saethu’n farw yn un o bentrefi’r Lan Orllewinol, wrth i filwyr a thaflwyr cerrig fynd ben-ben.

Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau mai enw’r bachgen oedd Laith Abu Naim, a’i fod wedi’i ladd gan un ergyd gwn i’w ben.

Mae byddin Israel yn mynnu nad oedden nhw’n defnyddio bwledi go iawn wrth geisio rheoli ‘reiat’ lle bu Palesteiniaid yn rhowlio teiars ar dân at filwyr ac yn taflu cerrig.

Ond mae maer pentref Mughayer yn dweud fod y soldiwrs wedi bod yn patrolio’r strydoedd a bod dynion ifanc lleol wedi dechrau taflu cerrig atyn nhw. Roedd y milwyr i gyd yn teithio mewn cerbydau milwrol, meddai wedyn, a doedd y cerrig ddim yn fygythiad iddyn nhw o gwbwl.

Mae’r fyddin yn dweud iddyn nhw ymateb trwy ddefnyddio dulliau ‘delio â reiat’, sef trwy ddefnyddio nwy dagrau yn bennaf. Mae’r fyddin hefyd wedi dweud ei bod hi’n ymwybodol o’r farwolaeth, ac yn ymchwilio i’r digwyddiad.