Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi ei gyhuddo o fod yn rhy ysgafn wrth weithredu sancsiynau ar Rwsia.

Yn sgil mesur a gafodd ei basio gan y Gynghres y llynedd, roedd disgwyl i’w weinyddiaeth osod sancsiynau ar fusnesau a phobol sydd wedi bod yn masnachu â chyrff yn Rwsia.

Ond, er bod sawl gwlad wrthi’n paratoi cytundebau masnach â’r cyrff yma, mae gweinyddiaeth Donald Trump wedi penderfynu peidio eu cosbi.

Mae’r Arlywydd wedi cael ei feirniadu am y penderfyniad, gyda’r Democrat, Eliot Engel, yn cyhuddo’r weinyddiaeth o “adael i Rwsia fynd yn ddi-gosb unwaith eto”.

Bwriad y Gynghres, trwy alw am y sancsiynau, oedd dial ar Rwsia am ei hymyrraeth honedig yn ymgyrch arlywyddol 2016.