Mae Gogledd Corea wedi tynnu allan o brosiect diwylliannol ar y cyd â De Corea, gan feio adroddiadau yn y wasg o’u “pardduo”.

Roedd y ddwy wlad wedi bwriadu cynnal y digwyddiad ar Fynydd Diemwnt y Gogledd, ar Chwefror 4, er mwyn croesawu Gemau Olympaidd y Gaeaf i dde’r penrhyn.

Ond, mae Gogledd Corea wedi datgan nad yw’n bosib iddyn nhw barhau â’r prosiect, gan roi’r bai ar wasg De Corea am ysgrifennu pethau negyddol amdanyn nhw.

Mae’n ymddangos mai penderfyniad Gogledd Corea i gynnal dathliad milwrol ar Chwefror 8 – ddiwrnod yn unig cyn seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd – oedd testun erthyglau beirniadol yn y De.

Mewn datganiad, mae De Corea yn dweud fod ymateb y Gogledd yn un “anffodus iawn”.