Mae 11 o filwyr Afghanistan wedi cael eu lladd, ac 16 arall wedi’u hanfu, ar ôl i’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) ymosod ar academi filwrol yn Kabul heddiw.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau yn Kabul y mis hwn, wrth i’r Taliban ac IS ladd degau o bobol a gadael cannoedd wedi’u hanfu.

Yn ôl llygad dystion, fe ddechreuodd y brwydro am tua 4yb ddydd Llun, ac fe barhaodd tan yn hir wedi toriad y wawr.

Hunan-fomiwr a ddechreuodd yr ymosodiad, gan ymosod ar uned ddiogelwch yr academi, gyda dynion arfog yn ei ddilyn.

Yn ôl llefarydd ar ran Gweinidogaeth Amddiffyn llywodraeth y wlad, roedd o leiaf pum person yn rhan o’r ymosodiad, gyda dau yn cael eu lladd yn y frwydr; dau yn ffrwydro eu hunain; ac un yn cael ei arestio gan filwyr.

Ar ôl y frwydr, fe wnaeth lluoedd diogelwch ailfeddiannu’r safle, ac fe gadarnhaodd yr awdurdodau bod 11 wedi cael eu lladd.

Maen nhw hefyd yn mynnu mai ymosodiad ar uned ddiogelwch yr academi oedd hwn, ac nid yr academi ei hun.