Mae arweinydd gwrthblaid Rwsia, Alexei Navalny wedi cael ei arestio ym Mosgo yn dilyn cyfres o brotestiadau ar draws y wlad.

Mae e wedi galw ar y protestwyr i barhau â’u brwydr yn erbyn llywodraeth y wlad.

Dywedodd wrth brotestwyr drwy ei dudalen Twitter eu bod nhw wedi dod allan “ar gyfer eich dyfodol chi”.

Roedd nifer y protestwyr yn amrywio o le i le, gyda chyn lleied â dwsin mewn rhai ardaloedd a channoedd mewn ardaloedd eraill.

Mae Alexei Navalny yn galw ar i bobol Rwsia gadw draw o etholiad arlywyddol y wlad ar Fawrth 18, wrth i’r Arlywydd Vladimir Putin geisio pedwerydd tymor wrth y llyw.