Mae sylfaenydd cwmni IKEA, Ingvar Kamprad wedi marw’n 91 oed.

Daeth cadarnhad gan y cwmni celfi iddo farw yn ei gwsg yn ei gartref yn ne Sweden.

Dywedodd y cwmni y byddai “colled ar ei ôl ymhlith ei deulu, a fydd yn ei gofio’n gynnes, a chan weithwyr IKEA ar draws y byd”.

Ond mae wedi’i feirniadu yn y gorffennol am ei gysylltiad â’r Natsïaid – “camgymeriad mwyaf ei fywyd,” meddai.