Mae cadeirydd cyllid Pwyllgor Cenedlaethol y Gweriniaethwyr, Steve Wynn wedi ymddiswyddo o weinyddiaeth Donald Trump yn dilyn honiadau o aflonyddu a chamdrin rhywiol.

Mae’n un o brif roddwyr ariannol y blaid ac roedd yn bennaf gyfrifol am godi arian (130 miliwn o ddoleri) ar gyfer ymgyrch arlywyddol Donald Trump.

Roedd y Wall Street Journal yn adrodd ddydd Gwener fod nifer o fenywod yn dweud iddyn nhw gael eu haflonyddu neu eu camdrin ganddo. Ond mae’n gwadu’r honiadau.

Mae lle i gredu, meddai’r papur newydd, fod dynes wedi derbyn 7.5 miliwn o ddoleri yn setliad ganddo.

‘Difyrrwch’

Wrth gyheoddi ei fod yn ymddiswyddo, dywedodd Steve Wynn mewn datganiad fod “rhaid i’r llwyddiant anhygoel rydyn ni wedi’i gyflawni barhau”.

“Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud er mwyn gwneud America’n lle gwell yn rhy bwysig i gael sylw wedi’i dynnu oddi arno gan y difyrrwch hwn.”

Mae lle i gredu bod yr Arlywydd Donald Trump wedi rhoi sêl bendith i’r ymddiswyddiad.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd y Gweriniaethwyr yn dychwelyd rhoddion Steve Wynn iddo, yn dilyn eu galwad ar i’r Democratiaid wneud hynny yn sgil helynt Harvey Weinstein, sy’n un o’u prif gefnogwyr.