Mae ‘nifer fawr o bobol’ wedi cael eu saethu’n farw yng ngogledd-orllewin Brasil.

Aeth dynion arfog i ganol parti ger stadiwm Arena Castelao yn ninas Fortaleza, un o’r caeau a gafodd ei ddefnyddio yng Nghwpan Pêl-droed y Byd yn 2014.

Mae lle i gredu bod hyd at 18 o bobol wedi cael eu lladd a chwech o bobol eu hanafu, ond dydy’r ffigwr ddim wedi cael ei gadarnhau.