Mae sinema ym Moscow wedi dangos ffilm ddychanol am yr arweinydd sofietaidd, Josef Stalin, er gwaethaf gwaharddiad swyddogol.

Cafodd y ffilm The Death of Stalin ei gwahardd gan awdurdodau Rwsia wedi i gomiwnyddion a ffigyrau eraill gwyno am ei bortread o hanes y wlad.

Bellach mae sinema Pioner yn wynebu cosbau cyfreithiol gan gynnwys dirwy sy’n gyfwerth a thua £1,250. Mae’n bosib gall y sinema gael ei orfodi i gau.

Mae nifer yn Rwsia yn parhau i edmygu Josef Stalin er gwaethaf ei gyfraniad gwaedlyd at hanes y wlad.