Mae byddin Ffrainc ar ei gwyliadwraeth, wrth i swyddfa dywydd y wlad rybuddio rhag llifogydd o ganlyniad i law trwm.

Mae rhybudd oren mewn grym ar gyfer 23 o ardaloedd, ac mae pobol yn cael eu cynghori i beidio â theithio, os nad oes raid.

Mae disgwyl mwy o law ddydd Iau.

Ar hyn o bryd, mae trigolion ardal Villeneuve-Saint-Georges i’r de-ddwyrain o’r brifddinas, Paris, yn bryderus ynghylch lefel afon Seine ac afon Yerres. Mae’r heddlu a’r frigân dân yno eisoes ar batrôl mewn cychod bychain.

I’r gorllewin o Baris, mae afon Seine wedi gorlifo’i glannau yn nhrefi Saint-Germain-en-Laye a Le Pecq.