Mae pedair hofrennydd wedi bod yn symud 150 o bobol o westy pedair seren yn yr Alpau, wedi i gwymp eira eu cadw’n gaeth yn yr adeilad yn yr Eidal.

Chafodd gwesty’r Langtauferer, nepell o’r ffin ag Awstria a 1,870m uwch lefel y mor, ddim ei daro’n uniongyrchol gan y cwymp, ond roedd ardal Bolanza gyfan mewn peryg, meddai’r awdurdodau.

Er bod gafodd cyflenwad trydan y gwesty ei adfer, ac nad oedd y gwesteion ddim ar frys i adael, fe fu’n rhaid i’r Maer orchymyn eu bod nhw’n cael eu symud oddi yno.

Mae risg o gwymp eira arall yn dal yn real iawn.

Ar hyn o bryd, mae hi’n amhosib cyrraedd y pentref ar y ffyrdd, gan fod y briffordd agosaf 20km i ffwrdd ac wedi’i rhwystro gan eira trwm.