Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi arwyddo mesur a fydd yn ailagor y Llywodraeth, ar ôl bron i dri diwrnod o fod ynghau.

Mae nifer o asiantaethau’r wlad wedi bod ynghau yn ystod y dyddiau diwethaf yn sgil y ffraeo yn y senedd rhwng y Gweriniaethwyr a’r Democratiaid dros faterion yn ymwneud â mewnfudo a gwariant.

Ond fe ddaeth y ddwy blaid i gytundeb ar ôl i’r Democratiaid gytuno i gefnogi mesur a fyddai’n sicrhau bod asiantaethau’r wlad yn parhau â’u gwaith am bedair wythnos arall tra bo’r trafodaethau’n mynd yn eu blaen.

Fe wnaeth y Gweriniaethwyr yn eu tro wedyn sicrhau y byddai’r senedd yn trafod rhai o’r materion hynny sy’n poeni’r Democratiaid, fel gweld cytundeb newydd i dros 700,000 o fewnfudwyr a ddaeth i’r Unol Daleithiau’n blant.

Ar ôl i’r mesur gael ei basio yn Capitol Hill, fe gafodd ei arwyddo gan yr Arlywydd yn breifat yn y Tŷ Gwyn.

Mae hyn bellach yn golygu y bydd miloedd o weithiwyr asiantaethau’r llywodraeth yn dychwelyd i’w gwaith heddiw, er bod y gwasanaethau brys wedi bod ar agor trwy gydol yr argyfwng.