Fe fydd y cyn bêl-droediwr, George Weah, yn cael ei urddo yn arlywydd newydd Liberia yn Affrica heddiw.

Fe fydd yn olynu Ellen Johnson Sirleaf, sef y ddynes gyntaf i fod yn arlywydd ar y wlad yng ngorllewin Affrica.

George Weah, sydd erbyn hyn yn 51 oed, oedd Chwaraewr y Flwyddyn FIFA yn 1995, ac fe gipiodd hefyd y wobr Ballon d’Or – yr Affricanwr cyntaf i ennill y gwobrau hyn.

Roedd wedi ymgeisio’n aflwyddiannus am yr arlywyddiaeth yn Liberia unwaith o’r blaen – sef yn 2005 – ond ar Ragfyr 26 y llynedd, fe lwyddodd yn y ras yn erbyn Ellen Johnson Sirleaf, sydd wedi bod yn Arlywydd am 12 mlynedd.

Mae pobol Liberia wedi bod yn cynnal gwasanaeth gweddïo am 48 awr ar drothwy’r seremoni heddiw.