Mae gwarant wedi cael ei chyhoeddi i arestio cyn-arweinydd Catalwnia, sydd ar ffo, ar ôl iddo adael Gwlad Belg a mynd i Ddenmarc, meddai swyddfa’r erlynydd yn Sbaen.

Mae disgwyl i Carles Puigdemont ymweld â Phrifysgol Copenhagen heddiw (dydd Llun).

Dyma fyddai’r tro cyntaf i gyn-arweinydd y rhanbarth adael gwlad Belg ers iddo ffoi er mwyn osgoi ymddangos gerbron llys yn Sbaen am ei rôl yn yr ymgyrch am annibyniaeth ym mis Hydref y llynedd.

Dywedodd yr erlynydd y byddai’n gwneud “cais ar unwaith” i’r Goruchaf Lys yn Sbaen i gyhoeddi gwarant Ewropeaidd i arestio Carles Puigdemont ar ol iddo deithio i Ddenmarc.

Roedd Sbaen wedi cyhoeddi gwarant Ewropeaidd i’w arestio ym mis Tachwedd ond cafodd ei ddiddymu ar ôl mis.