Mae o leiaf bump o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i ddynion arfog mynd i mewn i westy yn Kabul yn Afghanistan a’u saethu’n farw.

Fe fu brwydro ffyrnig rhwng y dynion arfog a’r awdurdodau am fwy nag 11 awr.

Mae lle i gredu bod chwech o bobol wedi’u hanafu yn y digwyddiad, a thros gant o bobol, gan gynnwys 16 o dramorwyr, wedi’u hachub o’r Intercontinental Hotel.

Mae cyrff pedwar o’r dynion arfog, a gafodd eu lladd ar ôl y digwyddiad, wedi cael eu symud. Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a gafodd yr holl ddynion arfog eu lladd.