Mae protestwyr wedi bod yn nodi blwyddyn union ers urddo Donald Trum yn arlywydd America trwy orymdeithio yn erbyn ei bolisïau.

Mae protest yn Efrog Newydd ymysg 200 o weithgareddau o’r fath sydd wedi eu trefnu ar gyfer y penwythnos yma.

Erbyn canol y bore, roedd dwsinau o bobl wedi ymgasglu yn Chicago, Los Angeles, Denver a Raleigh, Gogledd Carolina a Philadelphia.

Yn gynharach, roedd protestwyr yn Rhufain wedi dangos eu gwrthwynebiad i drais yn erbyn merched a datgan eu cefnogaeth i’r mudiad MeToo. Yn eu plith roedd yr actores Eidalaidd Asia Argento, sy’n honni iddi gael ei chamdrin yn rhywiol gan y cynhyrchydd ffilmiau Harvey Weinstein yn Hollywood.