Mae Donald Trump wedi beio plaid y Democratiaid am ddod â llywodraeth America i stop llwyr.

Mae’r rhan fwyaf o adrannau’r llywodraeth wedi cau ers hanner nos neithiwr ar ôl i seneddwyr fethu â chytuno ar gyllideb y wlad neithiwr.

Mae arlywydd America wedi trydar bod y Democratiaid wedi anfon ‘anrheg neis’ ato i nodi blwyddyn ers iddo gael ei urddo’n arlywydd.

“Gallai’r Democratiaid fod wedi taro bargen yn hawdd, ond fe wnaethon nhw benderfynu chwarae ‘shutdown politics’ yn lle hynny,” meddai.

“Mae’r Democratiaid yn poeni mwy am fewnfudwyr anghyfreithlon nag am ein lluoedd arfog gwych a diogelwch ar ein ffin beryglus â Mecsico.”

Dywedodd fod y bleidlais neithiwr yn dangos yr angen am ethol mwy o Weriniaethwyr i’r Senedd yn yr etholiadau eleni.