Mae adrannau o lywodraeth America wedi cau ers hanner nos oherwydd methiant seneddwyr i gytuno ar gyllideb y wlad.

Mewn pleidlais yn y Senedd neithiwr fe wnaeth seneddwyr y Democratiaid rwystro bil a fyddai wedi cadw’r llywodraeth i fynd am bedair wythnos arall.

Mae’r Democratiaid yn ceisio ennill consesiynau gan y Gweriniaethwyr, sy’n cynnwys ymestyn un o gynlluniau llywodraeth Barack Obama i ddiogelu rhai mewnfudwyr ifanc rhag gael eu hallgludo.

Roedd y Gweriniaethwyr yn ceisio cael mwy o amser i drafod, ond gwrthododd y Democratiaid.

Oherwydd y methiant i basio’r gyllideb, mae miloedd o swyddogion y llywodraeth am gael eu diswyddo dros dro. Ni fydd yn effeithio ar wasanaethau hanfodol fel yr heddlu, arolygwyr iechyd a’r fyddin, fodd bynnag.

Dyma’r pedwerydd tro i lywodraeth America gau mewn 25 mlynedd.