Mae’r awdurdodau yn yr Almaen wedi cadarnhau bod wyth wedi marw yn y storm arw sydd wedi taro’r wlad.

Bu farw dyn 65 oed yn Saxony-Anhalt tra’n ceisio gofalu am do ei dŷ, a bu farw dyn 34 oed wedi i goeden syrthio arno.

Bu farw o leiaf chwech arall ac mae dwsinau wedi eu hanafu yng nghanol a gogledd yr Almaen.

Ac mae coed wedi syrthio yn ystod y storm gan achosi anhawster sylweddol ar y ffyrdd a’r cledrau.

Bu farw tri yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg oherwydd y storm hefyd.