Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn mynnu nad yw ei safbwynt ar adeiladu wal ar y ffin â Mecsico “wedi newid dim”.
Daw’r sylwadau hyn ar ôl i aelodau o’r Blaid Ddemocrataidd, fu mewn cyfarfod â Phennaeth Staff y Tŷ Gwyn, John Kelly, ddoe (dydd Mercher), honni bod hwnnw wedi dweud na fydd angen wal ddi-dor yn cael ei chodi.
Mae’n debyg ei fod hefyd wedi dweud nad oedd yr Arlywydd yn ymwybodol o hynny pan wnaeth e’r addewid yn ystod yr ymgyrch arlywyddol dros flwyddyn yn ôl.
Ond wrth ymateb ar Twitter heddiw, mae Donald Trump yn dweud y bydd y gwaith o godi rhai rhannau o’r wal “yn mynd rhagddo”, a’i fod e’n ymwybodol o’r dechrau nad oedd rhannau ohoni i fod i gael ei hadeiladu, gan fod yna rwystrau naturiol yno eisoes.
“Wal yw wal,” meddai. “Nid yw’r cynllun wedi newid nac esblygu ers y diwrnod cyntaf i mi feddwl amdano.”