Mae maes awyr Schiphol yn Amsterdam wedi canslo pob ehediad i mewn ac allan, wrth i dywydd stormus daro’r Iseldiroedd. Mae’r gwasanaeth trenau hefyd ar stop yn y wlad, wedi i goed gael eu cwympo gan wyntoedd cryfion.

Fe ddaeth neges ar Twitter gan Schiphol toc wedi 11yb heddiw (dydd Iau) fod pob taith awyren oedd i fod i godi a glanio yno wedi’i chanslo “am y tro” oherwydd yr amodau gwael.

Mae cwmni KLM eisoes wedi canslo mwy na 200 ehediad, cyn i’r storm daro.

Mae adroddiadau yn dweud fod prif orsaf drenau Yr Hâg wedi’i chau oherwydd ofnau y gallai rhannau o’i tho gwydr newydd gael ei chwythu ymaith gan wynt mawr.