Mae arweinydd Sawdi Arabia, y Brenin Salman, wedi awdurdodi trosglwyddiad ariannol o $2bn (£1.4bn) er mwyn helpu Yemen.

Mae economi’r wlad  wedi dioddef dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd rhyfel, ac mae ei phobol yn newynu ac yn cael eu gorfodi o’u cartrefi yn eu miliynau.

Ddoe, fe alwodd Prif Weinidog Yemen, Ahmed Obeid bin Daghir, am gymorth er mwyn ceisio osgoi sefyllfa lle byddai’r economi’n “chwalu’n llwyr”.

Bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i Fanc Canolog y wlad yn Aden, ar ôl i lywodraethau’r ddwy wlad ei sefydlu ar wahân i’r banc sydd eisoes yn bod yn y brifddinas, Sanaa.

Sawdi Arabia ddechreuodd y rhyfel yn yr Yemen dair blynedd yn ôl, ar ôl cynnal cyrchoedd awyr yn erbyn gwrthryfelwyr Houthis, gan orfodi llywodraeth yr Yemen i fynd yn alltud.