Mae Pab Ffransis wedi cyfarfod pobol a gafodd eu camdrin gan offeiriaid yr Eglwys Gatholig, tra ar ei ymweliad â Chile. Fe fu’n crio gyda nhw, ac mae wedi ymddiheuro am y “difrod amhosib ei drwsio” y mae camdriniaeth yn ei wneud.

Mae’r Pab hefyd wedi cydnabod y “boen” y mae holl offeiriaid ei eglwys yn ei theimlo pan mae pob un ohonyn nhw’n cael eu dal yn gyfrifol am ddrwgweithredoedd nifer fach.

Ar ei ymweliad cyntaf â Chile, fe fu’r Pab yn trafod camdriniaeth o fewn yr eglwys, a hynny wrth i nifer brotestio yn erbyn ei daith. Fe gafodd eglwysi eu rhoi ar dân yn y brifddinas, Santiago, ac fe gafodd un ei llosgi i’r llawr yn nhalaith Araucania yn y de, lle mae disgwyl i’r Pab gynnal offeren heddiw.

Mae heddlu wedi bod yn defnyddio nwy dagrau a chanonau dwr er mwyn ceisio rheoli gwrthdystwyr ar y strydoedd yn Santiago.

Er y protestio, roedd tua 400,000 o bobol wedi troi allan ar gyfer yr offeren yn Santiago, ac fe fu carcharorion yn llefain yn agored pan fu’r Pab ar ymweliad â charchar menywod.

Ond dydi ei sylwadau am gamdriniaeth ddim yn mynd yn ddigon pell, yng ngolwg rhai sydd wedi dioddef camdriniaeth gan offeiriaid yn yr eglwys. Mae eu rhwystredigaeth yn dal i’w theimlo, wrth iddyn nhw ddweud fod yr eglwys wedi cuddio’r hyn oedd yn digwydd am flynyddoedd lawer.