Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Rex Tillesrson, wedi rhybuddio y bydden nhw’n ymateb yn “filwrol” os na fydd Gogledd Corea yn fodlon cynnal trafodaethau am gael gwared â’i harfau niwclear.

Ar ôl cyfarfod gyda chyngheiriaid yr Unol Daleithiau yn Vancouver, yn trafod sut y gall mwy o sancsiynau gael eu cyflwyno yn erbyn Gogledd Corea, dywedodd Rex Tillerson fod yr Unol Daleithiau yn chwilio am ddatrysiad diplomyddol i’r tyndra niwclear sy’n bodoli rhwng y ddwy wlad.

Ond ychwanegodd fod angen i’r Gogledd gydweithio â nhw’n “barchus”, a bod angen iddyn nhw gael gwared ar eu hagwedd fygythiol, os am gael datrysiad o’r fath.

“Mae’n rhaid i ni gydnabod bod y bygythiad [o Ogledd Corea] yn cynyddu, ac os na fydd Gogledd Corea yn dilyn y llwybr o gydweithio, trafod a chyd-gynghori, yna fe fydden nhw eu hunain yn tanio’r opsiwn arall,” meddai Rex Tillerson.

Daw’r sylwadau hyn wedi i Ogledd Corea wneud datblygiadau sylweddol ym maes arfau niwclear dros y misoedd diwethaf.

Er hynny, mae’r Arlywydd Donald Trump wedi dweud ers hynny ei fod yn barod i gynnal trafodaethau gyda Pyongyang, a’i fod yn credu y gall yntau a Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Korea, gael perthynas positif.