Mae 21 o blant wedi cael eu hanafu yn yr Almaen yn dilyn damwain bws.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn nhref Eberbach, tua 30 milltir i’r dwyrain o Mannheim, ychydig ar ôl 7yb heddiw, pan darodd y bws ysgol i mewn i dŷ.

Dywed llefarydd ar ran heddlu Mannheim, fod tri hofrennydd wedi helpu i gario’r disgyblion, gan gynnwys chwech gydag anafiadau difrifol, i’r ysbyty am driniaeth.